Canu wnaf am fuddugoliaeth, Hyd ne's elwy'm dedwydd nyth, Lle na raid im' ofni saethau Fy ngelynion creulon byth: Bythol hedd draw i'r bedd, Feddaf yn wastadol wledd. Ni raid i mi gario'r cleddyf, Yn y breswylfa lonydd draw; Derfydd galar ac wylofain, Caf fy nhelyn yn fy llaw; Mewn nefol hoen, fyth heb boen, Cana'i fry i'r anwyl Oen. Peraidd cān y gwaredigion, Yr ochr draw i'r byd a'r bedd; Ni bydd yno glaf na chlwyfus Yng nghyfeillach Brenin hedd; Nefoedd mwy iddynt hwy A olchwyd yn ei farwol glwy'. Mae myrddiynau gwedi dechreu Ar y sabboth mawr dilyth, Yn teyrnasu gyd ā'r Iesu, Bydd ei waredigion byth, At y llu sanctaidd cu, Gwynfyd pe cawn ehedeg fry.Morgan Rhys 1716-79 Golwg o Ben Nebo 1764 [Mesur: 8787447] gwelir: Gwelir myrdd o ryfeddodau |
Sing I shall about victory Until I go to my happy nest, When there is no need for me to fear the arrows Of my cruel enemies ever: Everlasting peace beyond the grave, I shall possess as a constant feast. No need for me to carry the sword, In the cheerful residence yonder; Mourning and lamenting shall perish, I shall have my harp in my hand; In heavenly vivacity, forever without pain, I shall sing above to the beloved Lamb. The sweet song of the delivered, On yonder side of the world and the grave; No sick or wounded shall be there In the company of the King of peace; Heaven evermore for those Who were washed in his mortal wound. Myriads have begun On the great unfailing sabbath, Reigning with Jesus, Shall his delivered ones forever be, To the dear sacred host, Blessed would I be to get to fly above.tr. 2023 Richard B Gillion |
|